The Celtic Literature Collective

Y Bedwenni
Llyfr Ddu Caerfyrddin XVI

Gwin y bid y vedwen in diffrin guy.
A sirth y chegev pop vn. pop dvy.
Ac a uit pan vo. y gad in ardudvy.
A chimrevan biv am rid vochnvy.
A pheleidir a gaur inyganhvy.
Ac edwin imon. ban gluedichuy.
Ar gueisson gleisson ysca[win] travodi.
ar dillad rution in ev roti. 

Gwin y bid hi y vedwen. ym pimlumon.
a wil ban vit ban baran eilon.
Ac a wil. y. freigc in lluricogion.
ac am gewin ir aeluid bvid balawon.
a mineich in vynich in varchogion. 

Gwin bid hi y veduen yguarthaw dinvythuy.
A vibid ban vo y gad in ardudwy.
Ar peleidir kychuin am edrywuy.
A. phont ar taw. ac arall ar tawuy.
Ac arall amwall am dwylan gwy.
Ar saer ae gunelwy. bid y env garvy.
Arbenygaul mon ae. guledychuy.
Guraget dan y gint. guir yg kystvy.
Dedwytach no mi ae harhowe.
Amser kadwaladir. kert a ganhwi