The Celtic Literature Collective

Pa Gwr
Llyfr Du Caerfyrddin XXXI

Pa gur yv y porthaur.
Gleuliud gauaeluaur.
Pa gur ae gouin.
Arthur. a chei guin.
Pa imda genhid.
Guir gorev im bid.
Ym ty ny doi.
Onysguaredi.
Mi ae guardi.
Athi ae gueli.
Vythneint elei.
Assivyon ell tri.
Mabon am mydron.
Guas uthir pen dragon.
Kysceint. mab banon.
A guin godybrion.
Oet rin vy gueisson
In amuin ev detvon.
manawidan ab llyr.
Oet tuis y cusil.
Neustuc manauid.
Eis tull o trywrid.
A mabon am melld.
Maglei guaed ar guelld.
Ac anguas edeinauc.
A lluch. llauynnauc.
Oetin diffreidauc.
Ar eidin cyminauc.
Argluit ae llochi
My nei ymtiwygei.
Kei ae heiriolei.
Trae llathei pop tri.
Pan colled kelli.
caffad cuelli. aseirolei.
Kei hid trae kymynhei.
Arthur ced huarhei.
Y guaed gouerei.
In neuat awarnach
In imlat ew agurach.
Ew a guant pen palach.
In atodev. dissethach.
Ym minit eidin.
Amuc. a. chinbin.
Pop cant id cuitin.
I d cvitin. pop cantt.
Rac beduir bedrydant.
Ar traethevtrywrid.
In amrvin a garv luid.
Oet guychir y annuyd.
O detyw ac yscuid.
Oet guaget bragad
Vrth. kei ig kad.
Oet cletyw ighad.
Oe lav diguistlad.
Oet hyneiw guastad
Ar lleg ar lles gulad.
Beduir. a bridlav.
Nau cant guarandau.
chuechant y eirthau.
A talei y ortinav.
Gueisson am buyint.
Oet guell banuitint.
Rac riev emreis.
Gueleise. kei ar uris.
Preitev gorthowis.
Oet gur hir in ewnis.
Oet trum y dial.
Oet tost y cynial.
Pan yuei o wual
Y uie urth peduar.
Yg kad pendelhei.
Vrth cant idlathei.
Ny bei duv ae digonhei.
Oet diheit aghev kei.
Kei guin allachev.
Digonint we kadev
Kin gloes glas verev.
Y guarthaw ystaw in gun.
Kei a guant nav guiton.
Kei win aaeth von
Y dilein lleuon.
Y iscuid oet mynud
Erbin cath paulc.
Pan gogiuerch tud.
Puy guant cath paluc.
Nau ugein kinlluc.
A cuytei in y buyd.
Nau ugein kinran. a[*]

* Here the MS is defective.