The Celtic Literature Collective

Afallen
Llyfr Du Caerfyrddin XVII

Afallen peren per ychageu.
Puwaur maur weirrauc enwauc invev.
In diffrin machavuy merchyrdit crev.
Gorvolet y gimry goruaur gadev.
In amuin kyminaud clefytaud clev.
Aer o Saesson. ar onn verev.
A guarwyaur pelre ac ev pennev.
A mi disgoganafe gwir heb gev.
Dyrchafaud maban in advan y dehev.

Afallen peren pren hyduf glas.
Pvwaur y chagev hy ae chein wanas.
Ami dysgoganafe kad am dias.
Penguern kywetyrn mety hatas.
[Ac am glych kyminawd kymyn leas
Eingyl gan pendeuic eryri eri attkas.]

Awallen peren. a pren melin.
A tyw in hal art. heb art inychilchin.
Ami discoganwe kad im prydin.
In amvin ev terwin aguir dulin.
Seith log. y deuant dros lydan lin.
A seith cant. dros mor y oreskin.
Or saul y deuant. nydant y kenhin.
Namuin seith lledawc gwydi ev llettkint.

Awallen peren. Atyf tra run.
Kymaeth lissvne iny bon. ir bot y wun.
Amyscud. ar wy isguit. amdet ar wydun.
Ac yg coed. keliton y kisceisse vyhun.
Oian a perchellan. pir puyllutte hun.
Andaude adar dywir ev hymevtun.
Teernet dros mor adav dyv. llun.
Guin ev bed ve kymri or arowun.

Awallen peren atif in llanerch.
Y hangert ae hargel rac riev ryderch.
Amsathir inybon. maon ynychilch.
Oet aelav vt vt dulloet diheueirch.
Nu nym cari guendit ac nimeneirch.
Oef kas gan gwassauc guaessaf rydirch.
Ryrewineis y mab ae merch.
Aghev aduc paup. pa rac nam kyueirch.
A. guydi guendolev nep riev impeirch.
Nym gogaun guarvy. nym goffvy gorterch.
Ac igueith arywderit. oet eur. wygorthorch
Kin buyf. aelav hetiv gan eiliv eleirch.

Afallen peren. blodev essplit.
Atiff in argel in argoydit.
Chuetlev a giklev ir inechrev dit.
Ryssorri guassauc guaessaf. meufit.
Duywetih atheirgueith. pedeirguieth in vn. dit.
Och iessu. na dyffv wynihenit.
Kyn dyffod ar willave lleith mab guendit.

Afallen peren atiff ar lan. afon.
Iny llurv. ny lluit maer. arychlaer aeron.
Trafu vm puyll. wastad. am buiad inibon.
A. bun wen warius. vn weinus vanon
Dec inlinet adev ugein iny gein anetwon
It vif inymteith gan willeith agwillon.
Guydi da diogan aditan kertorion.
Nv nev nam guy. guall. gan wylleith a guyllon.
Nv nev nachyscafe ergrinaf. wynragon.
Vy argluit guendolev ambrorryv brodorion.
Guydi porthi heint a hoed am cylch coed keliton.
Buyf guas guinwydic. gan guledic gorchortion.

Afallen peren blodev essplit.
Atyf igwerid ag hiid y guit.
Disgogan hwimleian hwetil adiwit.
Id lathennaur gan brid gurhid erwit.
Rac dreigev arderchev. riev rybit.
Goruit grat wehin din digrefit.
Rach maban hvan heolit arweit.
saesson ardiwreit beirt ar kinit.

Afallen peren a pren fion
Attif y dan gel yg coed keliton.
Kid keisseer ofer vit heruit y haton.
Iny del kadwaladir oe kinadil kadwaon.
Y erir tywi a teiwi affon.
A dyuod grande o aranwinion.
A guneuthur guar. o. willt. a gwallt hirion.

Afallen peren a pren fion.
Attif. y dan gel yg coed keliton.
Kid keisser ofervit herwit. y havon.
Yn y del kadwaladir oe kinadyl. rid reon.
Kinan iny erbin ef kychwin ar saesson.
Kimry a orvit kein bid endragon.
Kaffaud paub y teithi. llauen vi bri brython.
Kenhittor kirrn eluch. kathil hetuch a hinon.