The Celtic Literature Collective

Kygogion. Elaeth ae Cant.
Llyfr Du Caerfyrddin XX

Cantreghis wiguisc amhoen.
O amryues neus adwaen.
Nym gunaho douit duy poen.
Ny gvnaho dowit duy poen
Ar din amydic ae awar.
Direid new. direid daear.
Daearaul. pechodaul imyoel aduv.
A deweint. duhuned.
A gothuy crist nachisced.
Nachisced mab. din. yr dioteiveint
Mab duv. a duhuned pilgeint
Ew keiff new a chirreiveint.
Ryrreiweint a eiff a goffaho
Duv ac nistirmycco.
A new y os tragho.
Otreinc mab din heb imdiwin
A duv. am awnel o pechaud.
ny mad aeth eneid iny gnaud.
Ny naud y direid imioli
A duv inerbin dit kynhi
Ny thebic drud y treghi.
Cantreghis.